Beth yw Cyfraith Clare, a Sut Alla i Ei Defnyddio?
Holly Jones (Myfyrwraig)
Beth yw Cyfraith Clare, a Sut Alla i Ei Defnyddio?
Holly Jones (Myfyrwraig)
Beth yw cyfraith Clare?
Enwyd ‘Cyfraith Clare’, a elwir hefyd yn Gynllun Datgelu Trais Domestig, Domestic Violence Disclosure Scheme (DVDS), ar ôl Clare Wood, a lofruddiwyd gan ei chyn-gariad camdriniol yn 2009. Cyflwynwyd y cynllun fel polisi heddlu, gan roi’r hawl i unigolion wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner unrhyw hanes blaenorol o drais neu gam-drin.
Mae dau elfen i’r cynllun - yr ‘Hawl i Ofyn’ a’r ‘Hawl i Wybod’.
Mae’r ‘Hawl i Ofyn’ yn golygu y gall unigolyn neu drydydd parti perthnasol ofyn i’r heddlu wirio a oes gan bartner presennol neu gyn-bartner orffennol treisgar neu gamdriniol.
Mae’r ‘Hawl i Wybod’ yn galluogi’r heddlu i wneud datgeliad ar eu menter eu hunain os ydynt yn derbyn gwybodaeth am ymddygiad treisgar neu gamdriniol person a allai effeithio ar ddiogelwch partner presennol neu gyn-bartner y person hwnnw.
Pwy sydd â'r hawl i ofyn?
Os oes gennych bryderon am eich partner neu gyn-bartner, oherwydd eich bod yn credu eich bod mewn perygl personol o gam-drin ac yn credu y gallai fod ganddynt hanes o ymddygiad camdriniol neu drais, gallwch ddefnyddio Cyfraith Clare.
Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fod y person mewn perthynas neu berthynas flaenorol â pherson dan sylw i ddefnyddio Cyfraith Clare. Gallwch ofyn ar ran ffrind, aelod o'r teulu, cymydog neu gydweithiwr os ydych yn credu y gallent fod mewn perygl gan bartner presennol neu gyn-bartner. Fodd bynnag, efallai na fydd yr heddlu o reidrwydd yn datgelu unrhyw wybodaeth i chi. Gall yr heddlu benderfynu ei bod yn fwy priodol rhannu'r wybodaeth gyda'r person yr effeithir arno'n uniongyrchol, neu gyda rhywun sy'n fwy abl i amddiffyn eu diogelwch.
Mae gennych hawl i ofyn i'r heddlu am ymholiad yn ymwneud â pherthynas heterorywiol neu o'r un rhyw, os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn am bartner waeth beth fo'ch hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, hil, crefydd neu nodweddion eraill.
A fydd yr heddlu bob amser yn rhoi'r wybodaeth i mi?
Er mwyn i'r heddlu roi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, rhaid iddi fodloni 3 maen prawf - rhaid iddi gael ei hystyried yn 'gyfreithlon', yn 'gymesur' ac yn 'angenrheidiol'. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn seiliedig ar risg gredadwy o drais neu niwed. Rhaid i'r heddlu benderfynu yn gyntaf a yw'n briodol datgelu cofnodion cyfrinachol eich partner fel rhan o'ch cais DVDS. Os oes digon i awgrymu y gallech fod mewn perygl, yna bydd yr heddlu'n gwneud penderfyniad ar y cyd ynghylch pa wybodaeth i'w datgelu i chi. Nid yw gwybodaeth yn gyfyngedig i gam-drin corfforol, gan fod datgelu Cyfraith Clare yn ystyried gwahanol ddiffiniadau o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin seicolegol a/neu emosiynol, cam-drin corfforol a rhywiol, cam-drin ariannol neu economaidd, aflonyddu a stelcio a cham-drin ar-lein a digidol.
Sut fydd y wybodaeth yn cael ei datgelu?
Os ydych chi'n gwneud cais ar eich rhan eich hun, yna bydd yr heddlu'n datgelu unrhyw wybodaeth yn uniongyrchol i chi, fel arfer yn bersonol. Os ydych chi'n gwneud cais ar ran rhywun arall, efallai y bydd y datgeliad yn cael ei wneud i chi, neu i'r person yr effeithir arno, yn dibynnu ar eich perthynas â nhw a'ch gallu i'w cadw'n ddiogel. Os nad yw'ch partner yn hysbys i'r heddlu, neu os yw gwiriadau'r heddlu'n awgrymu nad oes bygythiad i'ch diogelwch, yna bydd yr heddlu'n dweud hynny wrthych. Yn yr achos hwn, nid oes gofyn iddynt rannu unrhyw ddatgeliad gyda chi nac unrhyw un arall.
Pryd y gallai fod angen Cyfraith Clare arnaf?
Mae gwybod am fodolaeth Cyfraith Clare yn bwysig iawn. Mae Cyfraith Clare ar waith i gadw unigolion yn ddiogel a'u gwneud yn ymwybodol o wybodaeth a allai achub eu bywydau. Efallai na fydd angen y gwasanaethau y mae Cyfraith Clare yn eu darparu arnoch byth, fodd bynnag, mae gwybod am y cynllun yn golygu y gallech helpu rhywun agos atoch trwy eu gwneud yn ymwybodol hefyd, neu efallai y bydd angen i chi wneud cais ar eu cyfer yn y dyfodol.
Hoffwn wneud cais - beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch wneud cais Cyfraith Clare drwy ymweld â gorsaf heddlu yn bersonol, ffonio 101 i ofyn am gais, neu wneud cais ar-lein drwy wefan yr heddlu, (, neu ofyn i asiantaeth gymorth wneud cais ar eich rhan, gyda'r broses yn cael ei chadw'n breifat.
Sut gall BULAC fy helpu?
Unwaith y byddwch wedi cael gwybodaeth drwy Gyfraith Clare, efallai y bydd gennych bryderon i'w trafod, fel ysgaru eich partner neu drefnu trefniadau plant. Byddwn yn gallu esbonio'r camau y gallwch eu cymryd, a pha opsiynau sydd ar gael i chi yn y dyfodol. Cysylltwch â ni ar 01248 388411 neu e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk i wneud apwyntiad.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig, ffoniwch 999 os oes risg uniongyrchol i ddiogelwch.