Ymysg yr enillwyr mae Gemma Waite, sy鈥檔 astudio athroniaeth, moeseg a chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd Gemma, sy鈥檔 ei thrydedd flwyddyn, wobr Mer锚d 鈥 sy鈥檔 cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol ac yn ehangach.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin ddydd Iau, 19 Mehefin.
Mae鈥檔 anrhydedd ac yn fraint ennill gwobr Mer锚d. Mae'n hyfryd gwybod bod yr holl waith rydw i wedi'i wneud tra yn y brifysgol nid yn unig yn cael ei gydnabod, ond hefyd yn cael ei werthfawrogi. Mae鈥檙 wobr yma wedi agor cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol, ac am hynny, rwy鈥檔 ddiolchgar.
Fel cynrychiolydd cwrs, dwi wedi gwneud hi鈥檔 flaenoriaeth i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg, boed hyn o rhan materion cwrs, materion cymdeithasol neu cynnig cefnogaeth pan fo angen. Dwi wedi 箩辞颈辞鈥檙 cyfle i fod yn gynrychiolydd cwrs a gweithio gyda myfyrwyr eraill, darlithwyr a鈥檙 brifysgol yn ehangach er mwyn ceisio sicrhau bod profiad myfyrwyr wrth galon bywyd yn y brifysgol.
Yn bennaf, hoffwn ddiolch i fy ddarlithwyr am yr holl gyfleoedd dwi wedi eu derbyn, heb y cyfleoedd yma ni fyddwn wedi cyflawni鈥檙 holl brofiadau dwi wedi eu derbyn.鈥

Wedi graddio, bydd Gemma yn dychwelyd i Fangor ym mis Medi i astudio MPhil ym moeseg a chrefydd. Yn ystod ei chyfnod ym Mangor, fe gafodd y fraint o weithio gyda鈥檙 Ganolfan Cenedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ar y 鈥楤roject Heddwch鈥, ble creodd adnoddau ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 7-9 ysgol uchwardd, ar wahanol agweddau o heddwch. Roedd yr agweddau hyn yn cynnwys heddwch a chrefydd, cyfiawnder cymdeithasol, a gweithgareddau rhyngweithiol er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i feddwl yn fwy am y pwnc. Fe enillodd y project Heddychwyr Ifanc gan y Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch Cymru yn Eisteddfod Llangollen yn 2024.
Mae wedi bod yn fraint cael cefnogi Gemma drwy gydol ei hastudiaethau. Mae ei deallusrwydd a鈥檌 hangerdd dros athroniaeth drwy鈥檙 Gymraeg yn adleisio鈥檔 berffaith ag etifeddiaeth Mer锚d - dyna pam ro'n i'n awyddus i'w henwebu. Ac roedd cael bod yn Yr Egin yn gweld Gemma'n derbyn y wobr gan Archdderwydd cyfredol Cymru, Mererid Hopwood, yn bleser enfawr, yn enwedig a hithau hefyd yn heddychwr gweithgar. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at barhau i gefnogi Gemma gyda'i hastudiaethau 么l-radd.

Mae llwyddiant Gemma yn adlewyrchu鈥檙 gorau y gall ein myfyrwyr anelu tuag ato: chwilfrydedd deallusol, ymrwymiad moesegol a chysylltiad dwfn 芒鈥檙 gymuned a鈥檙 diwylliant. Mae ei brwdfrydedd dros addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a鈥檌 chyfraniad eithriadol at waith academaidd ac estyn allan yn ei gwneud yn dderbynnydd teilwng iawn o Wobr Mer锚d. Rydym yn hynod falch ohoni.
Mae Gemma yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth am ei gwaith a鈥檌 chyfraniad tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch. Mae hi鈥檔 codi proffil a statws y Gymraeg yn ei sefydliad ac yn arddel y safonau uchaf. Diolchwn iddi am ei gwaith a dymunwn bob llwyddiant iddi tuag at y dyfodol.