Rheolwr Gwaith Achos Myfyrwyr yn dod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol

Llongyfarchiadau i Helen Munro, Rheolwr Gwaith Achos Myfyrwyr yn yr Uned Gwella Ansawdd, sydd wedi derbyn gwobr fawreddog gan Advance HE.
Mae cynllun Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn cydnabod ac yn gwobrwyo unigolion - staff academaidd a phroffesiynol - sydd wedi cael effaith sylweddol a pharhaol ar lwyddiant myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu. Rhaid i鈥檙 rhai sy鈥檔 derbyn gwobrau ddangos rhagoriaeth mewn addysgu, arweinyddiaeth y tu hwnt i鈥檞 swydd, ac ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol parhaus sy鈥檔 gwella addysgu, dysgu a phrofiad myfyrwyr.
Ymunodd Helen 芒 Phrifysgol Bangor yn 2007 fel Rheolwr Gwirfoddoli Myfyrwyr, gan arwain projectau cymunedol dan arweiniad myfyrwyr. Ers hynny mae hi wedi dangos rhagoriaeth mewn profiad myfyrwyr ac yn ein darpariaeth o hynny. Yn 2017, daeth yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, gan gefnogi myfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan gamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu. Mae ei hymroddiad a'i hymrwymiad i hyrwyddo materion sy鈥檔 ymwneud 芒 chamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sbarduno newid sefydliadol. Cafodd ei dyrchafu yn 2024 i Reolwr Gwaith Achos Myfyrwyr, ac mae Helen bellach yn goruchwylio materion sy鈥檔 ymwneud ag ymddygiad myfyrwyr ac yn parhau i arwain mentrau a hyfforddiant sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu.
Mae gwaith Helen hefyd wedi cael ei gydnabod gan Undeb y Myfyrwyr a thrwy amrywiol wobrau mewnol, gan gynnwys y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn 2023 a 2024, a'r Wobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr gystadleuol yn 2024.
Meddai Kathryn Harrison-Graves, Dirprwy Brif Weithredwr Advance HE, "Rydym yn falch dros ben o gyhoeddi gwobrau 2025 i'r rhai sydd ag ymrwymiad di-syfl i ragoriaeth addysgu.
鈥淢ae鈥檙 Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol a鈥檙 timau CATE newydd yn cynrychioli鈥檙 gorau ym maes addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, gan ddangos arloesi, ymroddiad ac effaith nodedig ar ddysgu myfyrwyr. Mae eu cyflawniadau o fudd i'w sefydliadau ac maent hefyd yn ysbrydoli rhagoriaeth ar draws y sector cyfan. Mewn cyfnod o heriau digynsail i addysg uwch, mae'r gwobrau hyn yn dathlu grym trawsnewidiol addysgu a chydweithio rhagorol."
Dywedodd Sue Moss, Cofrestrydd Academaidd, 鈥淢ae Helen yn gydweithiwr eithriadol y mae ei harweinyddiaeth wrth gefnogi myfyrwyr yr effeithir arnynt gan gamymddwyn rhywiol, trais ac aflonyddu wedi cael effaith drawsnewidiol. Mae ei gwaith wedi cryfhau hyfforddiant staff ac ymwybyddiaeth sefydliadol, ac rydw i wrth fy modd yn gweld ei llwyddiannau鈥檔 cael eu cydnabod drwy dderbyn Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol.鈥
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, 鈥淩ydw i wrth fy modd yn gweld ymroddiad Helen yn cael ei gydnabod drwy鈥檙 wobr fawreddog hon. Mae hi bellach yn ymuno 芒 phum enillydd blaenorol Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ein diwylliant cryf o werthfawrogi profiad myfyrwyr a dathlu rhagoriaeth ym Mangor, ac ar yr un pryd yn helpu i wella ein henw da yn genedlaethol.鈥
Dywedodd Helen Munro, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd enfawr derbyn Y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Mae cael fy nghyfrif ochr yn ochr ag enillwyr blaenorol o Brifysgol Bangor, sydd i gyd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol a hollbwysig i addysgu a dysgu ym Mangor, yn deimlad llethol ac rydw i鈥檔 arbennig o falch o gynrychioli鈥檙 Gwasanaethau Proffesiynol ac amlygu'r gwaith hanfodol a wneir gan y timau rhagorol hyn.鈥
Dywedodd Dr Laura Grange, Arweinydd Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor a chydlynydd cyfranogiad y Brifysgol yn y cynllun, 鈥淗offwn longyfarch Helen ar y gydnabyddiaeth nodedig a haeddiannol hon! Mae Helen yn aelod gwerthfawr o d卯m y Gwasanaethau Proffesiynol, ac mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn tynnu sylw nid yn unig at gyfraniad eithriadol Helen at wella canlyniadau myfyrwyr, ond hefyd at ysbryd cynhwysol y wobr 鈥 gan gydnabod bod rhagoriaeth mewn addysgu a chefnogi myfyrwyr yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Trwy ei hymroddiad, ei harloesedd, a'i hymrwymiad diwyro i lwyddiant myfyrwyr, mae Helen yn enghraifft o'r r么l hanfodol y mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn ei chwarae wrth lunio amgylchedd addysgol cadarnhaol a thrawsnewidiol.
Dyfarnwyd 61 Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol newydd yn 2025. Caiff yr holl enillwyr eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i addysgu rhagorol, trawsnewid canlyniadau myfyrwyr, ac ysbrydoli cydweithwyr mewn addysg uwch.
Gallwch weld y rhestr lawn o .