Bydd awduron Mindfulness: The Basics yn cynnal digwyddiad lansio ar-lein rhwng 12:30 a 13:30, lle byddant yn cyflwyno'r llyfr ac yn mynd i'r afael 芒 thri chwestiwn canolog: Beth yw ymwybyddiaeth ofalgar? Pam mynd ati i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar? A sut mae'n berthnasol yn y byd cymhleth sydd ohoni? Gwahoddir gwesteion i oedi, adfyfyrio ac ystyried y cwestiwn mawr sydd yn greiddiol i鈥檙 llyfr, sef beth rydyn ni wir yn ei wneud yma?
Mae Mindfulness: The Basics wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a darllenwyr cyffredinol fel ei gilydd ac mae鈥檔 cyfuno ysgrifennu clir, hygyrch 芒 dyfnder academaidd. Eglura Dr Sophie Sansom, un o awduron y gyfrol a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor, mai'r nod yw rhoi i ddarllenwyr ddealltwriaeth gadarn a chyflawn o ymwybyddiaeth ofalgar. Cyd-awduron y llyfr yw David Shannon a Taravajra.
Meddai Sophie:
鈥淲rth i straen, ansicrwydd ac argyfyngau byd-eang siapio mwy a mwy ar ein bywydau beunyddiol, mae鈥檙 llyfr yma鈥檔 cynnig man cychwyn go dda er mwyn dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar. Mae鈥檙 llyfr yn cyfuno鈥檙 hanes, y theori, yr ymarfer a pha mor berthnasol ydy o ar hyn o bryd ac mae鈥檔 gyflwyniad gwych i鈥檙 maes, gan dywys darllenwyr o ddeunyddiau cefndir ar lefel israddedig at ymarfer gweithredol ac arwyddoc芒d personol.
鈥淒an ni鈥檔 fwriadol yn lleoli ymwybyddiaeth ofalgar oddi fewn i heriau amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach, gan ofyn sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar gyfrannu nid yn unig at lesiant yr unigolyn ond hefyd at ffyniant dynol a ffyniant y blaned yn ehangach.鈥
Yn ogystal 芒 darparu canllawiau ymarferol, mae'r awduron yn rhoi darlun o鈥檙 dystiolaeth empirig sydd wrth wraidd y dulliau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gan ymgysylltu 芒 rhai o ddadleuon allweddol y maes鈥攎egis ei wreiddiau diwylliannol, ystyriaethau moesegol a鈥檙 cyfyngiadau y gwyddom amdanynt.
Mae adran bwrpasol sy鈥檔 trafod ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac yn cynnig modiwlau clir yn egluro鈥檙 bwriad, yn trafod ymarfer sganio鈥檙 corff, symudiad a llonyddwch, ymarfer eistedd, a gwau ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o fywyd bob dydd. Cefnogir hyn gan ddiagramau, crynodebau penodau ac e-adnoddau sy鈥檔 cynnwys canllawiau llafar.
Cyhoeddwyd Mindfulness: The Basics mewn cyfrol clawr caled ar 23 Tachwedd ac mae鈥檙 cyhoeddwyr Routledge yn ei ddisgrifio fel llyfr i helpu darllenwyr i ddod ag ymwybyddiaeth ofalgar oddi ar y dudalen ac yn rhan o鈥檜 profiad bywyd.