
Nod
Nod y Project AdaptQoL yw datblygu mesur canlyniadau newydd ar sail adroddiadau cleifion (PROM) ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Teclynnau ar ffurf holiadur yw mesurau canlyniadau ar sail adroddiadau cleifion a ddefnyddir yn aml i fesur canlyniadau iechyd unigolion, pethau megis ansawdd bywyd a rheoli symptomau. Weithiau bydd mesurau canlyniadau o鈥檙 fath yn seiliedig ar ddewisiadau, sy'n golygu eu bod yn adlewyrchu dewisiadau cleifion neu ddewisiadau cymdeithas wrth ystyried gwahanol gyflyrau iechyd.Yn y project hwn, ein nod yw datblygu mesur canlyniadau newydd sy'n seiliedig ar ddewisiadau a fydd yn helpu economegwyr iechyd, clinigwyr, therapyddion a chleifion i fesur yn gywir beth fyddai manteision gwahanol dechnolegau cynorthwyol o ran ansawdd bywyd. Gwneir hynny er mwyn llywio gofal cleifion a llywio penderfyniadau.
Cefndir
Mae gan bron i chwarter poblogaeth y Deyrnas Unedig, sef mwy na 16 miliwn o bobl, ryw fath o anabledd. I bobl sy'n byw gydag anabledd, gall technolegau cynorthwyol hwyluso, hyrwyddo a gwella cyfranogiad mewn addysg, gwaith, gweithgareddau cymdeithasol/hamdden, ac arwain at annibyniaeth gyffredinol. Mae technoleg gynorthwyol yn derm eang sy'n cyfeirio at lawer o wahanol ddyfeisiau ac ymyriadau, o ran uwchdechnoleg ac isdechnoleg, pethau megis cadeiriau olwyn, cymhorthion clyw, addasiadau i鈥檙 cartref, cymhorthion cyfathrebu, rheolyddion amgylcheddol, cymhorthion ar gyfer gofal personol ac yn y blaen.
Mae mwy na 30% o boblogaeth y byd yn defnyddio un neu ragor o鈥檙 pethau hyn. Er gwaethaf potensial mawr technolegau cynorthwyol i gefnogi pobl ag anableddau a chyflyrau cronig, bydd pobl yn rhoi鈥檙 gorau i ddefnyddio tua 70% o'r dyfeisiau hyn yn gynamserol oherwydd problemau gyda鈥檜 dyluniad a鈥檜 defnyddioldeb.
Credwn fod potensial mawr i wella darpariaeth technoleg gynorthwyol drwy fesur canlyniadau'n well; canfu adolygiad systematig diweddar gan bod 53 o fesurau canlyniadau gwahanol wedi'u defnyddio i asesu technolegau cynorthwyol, ond dim ond 32% o'r mesurau hyn oed wedi eu cynllunio鈥檔 benodol i werthuso technolegau cynorthwyol, ac nid oedd yr un ohonynt yn seiliedig ar ddewisiadau. Ar ben hynny, dim ond mewn un astudiaeth yr oedd 64% ohonynt wedi cael eu defnyddio, gan ddangos gwendid o ran unffurfiaeth a chydgordiad.
Ein huchelgais yw y bydd Mesur Canlyniadau ar Sail Adroddiadau Cleifion AdaptQoL yn llenwi'r bwlch hwn mewn opsiynau mesur sy'n seiliedig ar ddewisiadau ac yn darparu dull unedig o fesur canlyniadau ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn y cyd-destun hwn.
Yr ymchwil sydd wedi'i gynllunio
Bydd y project AdaptQoL yn cynnwys pedwar pecyn gwaith:
Datblygu system ddisgrifiadol AdaptQoL (h.y. cwestiynau ac atebion yr arolwg) drwy gyfweld ag amrywiaeth (n=40) o ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol i ddeall y berthynas rhwng iechyd, amhariadau, addasiad ac ansawdd bywyd
Mireinio system ddisgrifiadol AdaptQoL drwy beilota (n=250) gyda grwpiau perthnasol o gleifion - bydd hyn yn cynnwys asesu priodweddau seicometrig yn defnyddio dadansoddiad Rasch a dadansoddi ffactorau archwiliadol
Datblygu system sgorio鈥檔 seiliedig ar ddewisiadau gan ddefnyddio'r dull OPUF - yn ogystal byddwn yn cymharu gwahaniaethau o ran dewisiadau cyflwr iechyd y cyhoedd (n=300) o gymharu 芒 phobl sydd 芒 phrofiad o ddefnyddio technoleg gynorthwyol (n=300)
Datblygu fersiwn Gymraeg o'r AdaptQoL, gan ddefnyddio dilysu ieithyddol a chyfweliadau gwybyddol gyda rhanddeiliaid perthnasol (n=10)
Manylion cyswllt
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y project hwn, cysylltwch 芒'r Pen- Ymchwilydd. : n.bray@bangor.ac.uk
Bydd y project AdaptQoL yn rhedeg tan fis Ebrill 2027 a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.