Beth yw Clirio?
Mae Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyfle gwerthfawr i amrywiaeth eang o unigolion i ddod o hyd i'r cwrs prifysgol perffaith ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yn dechrau ym mis Medi 2025.
Meddygaeth
Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl i ganlyniadau Lefel-A gael eu rhyddhau i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.
Fferylliaeth
Mae lleoedd Fferylliaeth ar gael drwy'r system Glirio. Cofrestrwch eich diddordeb, a byddwn yn cysylltu â'r rhai ar y rhestr yn syth ar ôl Diwrnod Canlyniadau Lefel-A i drafod cyfleoedd Clirio posibl.
Pryd mae Clirio yn 2025?
Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025. Gallwch wneud cais trwy UCAS i astudio cwrs gradd israddedig ym Mhrifysgol Bangor hyd at ddydd Llun, 30 Mehefin, 18:00.
Pwy All Wneud Cais Drwy Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
- Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol Bangor drwy Clirio.
- Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol Bangor yn uniongyrchol drwy Clirio.
Pam Gwneud Cais i Brifysgol Bangor Drwy Clirio?
Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol Bangor drwy Clirio am sawl rheswm:
- Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig eich cyfle nesaf.
- Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
- Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
- Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
- Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig llwybr i addysg uwch.
Cynllunio'ch Opsiynau Clirio ym Mhrifysgol Bangor
Hyd yn oed os ydych chi'n disgwyl am eich canlyniadau, dyma'r amser perffaith i ddechrau meddwl am eich opsiynau Clirio. Os nad ydych chi wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto neu'n ailystyried eich dewisiadau, dechreuwch archwilio ein meysydd pwnc, cymerwch olwg manylach ar ein cyrsiau a chofrestrwch eich diddordeb mewn Clirio ym Mhrifysgol Bangor.
Gwylio - Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio
Mynegi diddordeb ymgeisio drwy Clirio 2025
Pam dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!