Cyhoeddi / Ffilmio
Cyhoeddi eitemau o鈥檙 casgliad
Lle bo angen cyhoeddi eitemau, rhaid cyflwyno Ffurflen gais am hawl i gyhoeddi.
Mae鈥檙 ffurflenni ar gael yn ystafell ddarllen yr Archifdy neu wrth wneud cais drwy e-bost.
Ffioedd cyhoeddi
Atgynhyrchu fesul delwedd (mewn cyhoeddiad masnachol)
| 拢25 |
Atgynhyrchu fesul delwedd (arlein neu ar y cyfryngau cymdeithasol)
| 拢40 |
Atgynhyrchu fesul delwedd mewn darllediad Cymreig / Rhanbarthol (teledu a ffilm)
| 拢60 |
Atgynhyrchu fesul delwedd mewn darllediad rhwydwaith y DU (teledu a ffilm)
| 拢80 |
Cydnabyddiaethau
Gofynnwn yn garedig am gydnabyddiaeth am ddefnyddio delweddau o鈥檔 casgliadau. Dylech nodi 鈥淎rchifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor鈥 a nodi cyfeirnod llawn yr eitem(au) lle bo鈥檙 gallu e.e.
鈥淎tgynhyrchwyd drwy ganiat芒d yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor (Llsgrf Bangor 1532).鈥
Ffilmio
[Darllenwch yn drylwyr cyn cysylltu 芒 press@bangor.ac.uk i drefnu ffilmio.]
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cynnig llawer o wasanaethau i'r wasg a'r cyfryngau ac rydym yn croesawu criwiau teledu. Fodd bynnag, mae natur ein casgliadau yn golygu bod rhaid inni ystyried cwestiynau yngl欧n 芒 hawlfraint, cadwraeth, gwarchod, iechyd a diogelwch a lles myfyrwyr felly ni allwn sicrhau mynediad at ein holl gasgliadau bob amser. Rydym felly yn cadw鈥檙 hawl i wrthod caniat芒d i ffilmio heb roi rheswm.
Rhaid i'r cwmni / cynhyrchydd ffilm gytuno i:
- Lenwi a llofnodi ffurflen gais am ganiat芒d i gyhoeddi. Mae ffurflenni ar gael yn Ystafell Ddarllen yr Archifdy neu wrth wneud cais ebost.
- Cael caniat芒d gan berchennog cyfredol yr hawlfraint os yw eitem o dan hawlfraint.
- Cydnabod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig fel ffynhonnell y cofnodion ar y sgrin yn y cydnabyddiaethau cloi ar ddiwedd y ffilm/rhaglen.
- Parchu a chadw at ofynion diogelu a gofalu鈥檙 Archifau a Chasgliadau Arbennig o ran trin dogfennau.
Rhoddir pob caniat芒d i ddarllediadau teledu yn amodol ar gytundeb. Caiff cytundebau eu trafod gyda chi ar y cyd 芒 Th卯m Cyfathrebu鈥檙 Brifysgol, a bydd yn cynnwys y manylion a roesoch yn ystod y broses ymgeisio.
Bydd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn anelu at ymateb cyn gynted 芒 phosibl i'ch cais, ond gall y broses o roi caniat芒d gymryd peth amser, felly gofynnwn ichi gyflwyno ceisiadau ymhell cyn unrhyw ddyddiadau cau.
Mae croeso i'r cwmni / cynhyrchydd ffilm anfon eu hymchwilydd eu hunain i ystafell darllen yr Archifau a Chasgliadau Arbennig. Ewch i'n tudalennau ar y we i gael manylion am sut i gofrestru fel darllenydd gyda'r Archifau a Chasgliadau Arbennig.
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn darparu gwasanaeth sganio i gwmn茂au / cynhyrchwyr ffilm nad ydynt eisiau defnyddio criw ffilmio. Mae鈥檙 gwasanaeth hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn benodol yng nghyswllt cyflwr, maint, hawliau perchnogaeth a chyfraith hawlfraint.
Mae rhyddhau delweddau a rhoi caniat芒d yn dibynnu ar arwyddo contract a / neu dalu yn llawn.
Fel mater o gwrteisi, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i'r gwasanaeth cyn darlledu am y tro cyntaf unrhyw raglen lle mae un neu ragor o'n delweddau yn cael eu cynnwys. Mae hyn er mwyn gallu rhybuddio staff yr Archifau a Chasgliadau Arbennig am ddiddordeb cyhoeddus posibl yn ein deunydd.
Ni fyddwn fel arfer yn gwrthod caniat芒d i gyhoeddi ein delweddau, oni bai ein bod yn credu y byddai eu cyhoeddi yn mynd yn groes i gyfraith y DU, yn mynd yn groes i delerau unrhyw gytundeb yr ydym yn dal y deunydd drwyddo, neu os byddwn yn credu y gallai eu cyhoeddi achosi niwed i enw da Prifysgol Bangor.
Rydym yn cadw鈥檙 hawl i godi ffi gyhoeddi (yn ychwanegol at ffi ffilmio) yn achos cyhoeddiadau masnachol. Byddai unrhyw ffi gyhoeddi yn cael ei chodi ar wah芒n i'n ffi ffilmio a'n prisiau cop茂o (sganio).
Ffioedd ffilmio
Y raddfa ffilmio yw 拢50 yr awr. Mae'r pris hwn yn cynnwys defnyddio deunydd o鈥檙 Archifau a Chasgliadau Arbennig phresenoldeb aelod o staff y mae'n rhaid iddo/iddi fod ar y safle am resymau diogelwch a chadwraeth.
[Nid yw'r pris hwn yn cynnwys gwaith ymchwil a wneir gan staff Archifau a Chasgliadau Arbennig i baratoi ar gyfer y ffilmio 鈥 cost hyn fel arfer yw 拢20 am bob hanner awr.]