Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor yn cynnig gwasanaeth ymchwil am d芒l sy鈥檔 defnyddio'r daliadau sydd ar gael yn ein casgliadau. Rydym yn cynnal chwiliadau cymharol fyr a phenodol ar ddogfennau rydych chi wedi'u nodi o'n catalog.
Gwneir pob ymdrech i ddarparu鈥檙 wybodaeth y gofynnir amdani. Fodd bynnag, natur ymchwil yw nad oes unrhyw warant y bydd yn cynhyrchu canlyniad cadarnhaol ym mhob achos. Byddwn, lle bo modd, yn eich cynghori ar unrhyw ffynonellau neu archifdai eraill y gallech eu defnyddio i fwrw ymlaen gyda鈥檆h ymchwil.
Yn anffodus, ni all ein gwasanaeth lunio coed teuluol ar gyfer unigolion na chynnal prosiectau ymchwil helaeth.
Os yw dogfen yn rhy fregus neu os yw mynediad iddo wedi'i gyfyngu o dan reoliadau diogelu data, yn gyffredinol ni fydd yn bosibl cynnal ymchwil arno. Gallwn eich cynghori ymhellach ar hyn pan fyddwch chi'n cysylltu 芒 ni.
Sut i ddefnyddio'r Gwasanaeth Ymchwil
Y cam cyntaf yw anfon e-bost atom i archifau@bangor.ac.uk yn egluro'n fanwl pa waith ymchwil yr hoffech i ni ei wneud ar eich rhan.
Yna byddwn yn rhoi gwybod i chi a allwn ymgymryd 芒'ch cais ymchwil.
Ffioedd Chwilio
Y gost ar gyfer y gwasanaeth ymchwil fydd 拢20 fesul hanner awr.
Gallwn ymgymryd ag uchafswm o 1 陆 awr o ymchwil fesul cais.
Bydd cost darparu unrhyw ddogfennau (llungop茂au, sganiau, ffotograffau) sy'n ychwanegol at y gofyniad chwilio yn d芒l ychwanegol a chewch wybod am hyn.
Os na ellir dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani o fewn yr amser a nodwyd gennych, byddwn yn gadael i chi wybod. Bryd hynny, os hoffech i ni barhau 芒'r chwiliad, gofynnir i chi wneud taliad ychwanegol ymlaen llaw ar yr un sail ag o'r blaen, gan awdurdodi hyd at awr a hanner pellach o waith.
Derbyn eich canlyniadau
Fel arfer, cynhelir ymchwil o fewn cyfnod o bedair wythnos.
Anfonir e-bost a fydd yn cynnwys rhestr o'r holl ffynonellau a wiriwyd ar eich rhan ac yn egluro pa wybodaeth a ddarganfuwyd yn ystod y cyfnod ymchwil.