Mae deallusrwydd artiffisial gyda'i fodelau iaith mawr yn dylanwadu ar sut rydym yn ysgrifennu. Fodd bynnag, nid deallusrwydd artiffisial yw'r dechnoleg gyntaf na'r cyfrwng cyntaf i ddylanwadu ar sut rydym yn ysgrifennu, nac i gynnig ffyrdd i ni astudio sut mae pobl yn ysgrifennu. Bydd y ddarlith gyhoeddus hon yn ystyried beth sydd ynghlwm wrth ysgrifennu, pa ffactorau sy'n effeithio ar sut rydym yn ysgrifennu a sut mae technoleg yn rhoi cipolwg i ymchwilwyr ar sut rydym yn ysgrifennu.
Bydd y ddarlith yn trafod y meysydd hyn ac yn eu darlunio gyda phrosesau ysgrifennu amrywiaeth o awduron iaith gyntaf ac ail iaith, awduron o wahanol oedrannau ac unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Trafodir yn fyr hefyd sut mae awduron yn ymdrin 芒 system dreigladau鈥檙 Gymraeg, yn ogystal 芒 sut y gallai鈥檙 offer cyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu data ar gyfer ysgrifennu fod yn ddefnyddiol hefyd i astudio pryder gyda mathemateg.
Bydd y ddarlith yn gorffen trwy ofyn sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn addysgu i leihau'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial fel rhan o'r broses ysgrifennu.
Graddiodd yr Athro er Anrhydedd Kirk Sullivan ym Mhrifysgol Bangor ym 1986 gyda BA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Ers hynny, mae wedi bod yn astudio a gweithio mewn prifysgolion yn Ewrop a Seland Newydd. Mae Kirk yn gweithio ym Mhrifysgol Ume氓 yn Sweden ers 30 mlynedd, lle mae鈥檔 athro ieithyddiaeth ac yn arweinydd gwyddonol yr ysgol 么l-radd gwyddor addysg. Mae'r Athro Sullivan wedi cadw cysylltiad agos 芒 Bangor ac mae'n cydweithio'n aml ag ymchwilwyr Prifysgol Bangor.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael cyn y ddarlith.