Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio y Gyfraith
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni'r Gyfraith yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Llongyfarchiadau ar gael eich lle i astudio efo ni yma ym Mhrifysgol Bangor.
Fy enw i ydi Lois a dwi'n ddarlithydd y Gyfraith ym maes cyfraith trosedd. Wrth astudio efo ni chewch fynediad at gyfleusterau gwych gan gynnwys y ffug lys a'r clinig cyfreithiol lle gewch gyfle ymchwilio a rhoi eich barn ar faterion cyfreithiol a chynghori aelodau o'r cyhoedd.
Dwi'n edrych ymlaen at eich croesawu chi yma.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd wythnos arferol ar y campws yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd mewn gr诺p mawr, seminarau llai yn seiliedig ar drafodaeth, a thiwtorialau personol. Gallwch ddisgwyl ategu eich astudiaethau yn y dosbarth trwy hunan-astudio, lle byddwch yn gweithio tuag at gwblhau aseiniadau, paratoi at ddosbarthiadau, a gwneud gwaith darllen a argymhellir/darllen pellach.
Does dim rhestr darllen cyn i chi ymuno 芒 ni ym mis Medi, ond efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwylio rhai rhaglenni teledu, gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau sy'n ymdrin 芒 gwahanol feysydd y Gyfraith.
Gallwch ddisgwyl amserlen sy鈥檔 cynnwys 12-15 o oriau cyswllt ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd wedi eu hamserlennu, seminarau, a/neu diwtorialau. Bydd disgwyl i chi baratoi at y sesiynau hynny trwy gwblhau'r gwaith darllen a argymhellir ac ymgymryd ag unrhyw dasgau eraill sydd wedi eu gosod.
Mae blwyddyn gyntaf gradd yn y gyfraith fel arfer yn eich cyflwyno i'r cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol sylfaenol. Byddwch yn astudio pynciau megis Cyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefnau (cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr), Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Gyhoeddus. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich blynyddoedd astudio dilynol.
I baratoi cyn dechrau ar eich gradd yn y Gyfraith, gallwch ddarllen yn eang trwy archwilio newyddion cyfreithiol, darnau barn a thestunau clasurol. Gallwch hefyd ymarfer eich sgiliau meddwl beirniadol trwy gymryd rhan mewn dadleuon, trafodaethau ac ymarferion dadansoddol. Byddai darllen ynghylch eich maes diddordeb yn fuddiol, gan y byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fwy trylwyr o'r pwnc cyn dechrau eich astudiaethau.
Rydym wedi cael blwyddyn brysur, o efelychiadau llys i fewnwelediadau cyfreithiol byd-eang. Dyma gipolwg ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar.
Blog Y Gyfraith Caryl
Mae Prifysgol Bangor yn opsiwn perffaith oherwydd bod y darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc maent yn ei addysgu. Mi roedd yr opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael addysg mewn grwpiau tiwtorialau bach, cartrefol a cyfeillgar yn fy nenu i Fangor.
Roedd y profiad yn dda iawn ac fe ges i鈥檙 cyfle i gwrdd 芒 myfyrwyr o鈥檙 Almaen a Gwlad Pwyl. Mi wnes i ddysgu am faterion fel digartrefedd a鈥檙 ffordd y roedd gwahanol wledydd yn ymdrin 芒鈥檙 pwnc. Yn ystod y trip ges i gyflwyno am ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig a鈥檙 polis茂au gwahanol sydd yma. Cefais hefyd ymweld ag ysgolion lleol, ble roedd systemau cadarn mewn lle i gefnogi plant a phobl ifanc, oedd hi鈥檔 brofiad diddorol iawn.
Fe wnaeth y profiad o weithio yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol roi鈥檙 cyfle i mi helpu pobl mewn sefyllfaoedd gwirioneddol a chael profiad o ysgrifennu llythyrau.
Yn y dyfodol, rydw i鈥檔 sicr eisiau defnyddio鈥檙 radd a gweithio yn y maes cyfreithiol. Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio gyda Menter M么n ac mae鈥檙 profiad wedi bod yn un gwerthfawr i mi.
Cwrdd rhai o'ch darlithwyr

Dr Natasha Hooker
Mae'r gyfraith yn bwnc heriol a difyr iawn oherwydd ei fod yn datblygu鈥檔 barhaus. Mae hyn yn cadw'r pwnc yn ddiddorol ar 么l gorffen astudio yn y brifysgol gan eich bod yn gallu gweld ei ddatblygiad mewn bywyd bob dydd!
Mae'r grwpiau dysgu llai yn galluogi darlithwyr i ddatblygu perthynas waith dda gyda'r myfyrwyr. Mae hyn yn arwain at ddarlithwyr yn dod i adnabod arddulliau dysgu unigol ac anghenion myfyrwyr.
Grym a hyblygrwydd rhaglenni gradd cydanrhydedd! Trwy astudio fel hyn, rydych yn gallu symud ymlaen i yrfa gyfreithiol, ac ehangu eich rhagolygon gyrfa ar yr un pryd!
Peidiwch 芒 bod ofn rhoi cynnig ar dasgau heriol a dysgu o'ch camgymeriadau.