Tasg y pedwar ar ddeg a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda Medal Goffa Daniel Owen a鈥檙 nofel gyhoeddedig yn wobr.
Y beirniaid oedd Mari Emlyn, Alun Davies a Haf Llewelyn, ac yn ei beirniadaeth hi, dywed Mari Emlyn, 鈥淕wyddwn fy mod mewn dwylo diogel o鈥檙 cychwyn yng nghwmni鈥檙 llenor penigamp hwn er nad dyma鈥檙 math o nofel sydd fel arfer at fy nant.
鈥淪trwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda鈥檌 phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i鈥檙 drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y 诲茅苍辞耻别尘别苍迟, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, 鈥楴id yw bywyd go-iawn yn dwt.鈥
鈥淢ae鈥檙 nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae鈥檔 batrwm o sut i ddefnyddio st么r eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantas茂ol heb i鈥檙 ymchwil hwnnw lyncu鈥檙 stori... Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen.鈥
Meddai Haf Llewelyn yn ei beirniadaeth hi, 鈥淢ae hon wedi bod yn gystadleuaeth arbennig eleni. Hynod felly yw dweud bod 鈥楢nfarwol鈥 wedi neidio i鈥檙 brig, ac aros yno o鈥檙 darlleniad cyntaf un. Rydym yng nghwmni awdur arbennig yma, a theimlaf hi鈥檔 fraint fod ymysg y bobl gyntaf i gael darllen y gwaith hwn. O鈥檙 dechrau gallwn ymlacio, gan wybod na fyddai Ozymandias yn baglu, a fy mod yng nghwmni awdur hyderus, saern茂wr stori gelfydd a dewin geiriau sy鈥檔 trin ein hiaith yn goeth ac ystwyth.
鈥淢ae hon yn nofel lwyddiannus iawn a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ozymandias ar ddod i鈥檙 brig mewn cystadleuaeth gref. Mentraf ddweud hefyd fod hon yn dod i blith goreuon enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen dros y blynyddoedd.鈥
Roedd Alun Davies hefyd yn canmol y gwaith buddugol yn ei feirniadaeth, 鈥淕all barnu 14 o nofelau mewn cyfnod cymharol fyr fod yn dasg heriol, ond y wobr i feirniad yw darganfod stori fel 鈥楢nfarwol鈥. O ystyried safon yr ymgeiswyr eleni mae鈥檔 glod mawr dweud bod stori Ozymandias yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw鈥檙 cystadleuwyr eraill, ac nid yn unig yn haeddu ennill eleni, ond mae鈥檔 debyg y byddai wedi codi i鈥檙 brig nifer o flynyddoedd eraill hefyd.
鈥淢ae hon wir yn stori syfrdanol sy鈥檔 anodd i鈥檞 chrynhoi: antur hanesyddol, goruwchnaturiol a gwyddoniasol sydd yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol. Mae鈥檙 nofel yn cyffwrdd 芒 marwoldeb, Cymreictod, a鈥檙 hyn mae鈥檔 ei olygu i fod yn rhan o鈥檙 ddynol ryw, a chefais f鈥檡sgogi i fyfyrio ar nifer o gwestiynau rhyfedd a diddorol wrth ddarllen... Mi allwn i ysgrifennu llawer mwy am 鈥楢nfarwol鈥, ond dim ond ei darllen all wneud cyfiawnder 芒鈥檙 nofel hon. Enillydd cwbl haeddiannol o鈥檙 wobr eleni.鈥
Daw Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies o ganol Ynys M么n. Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, ble torrodd ei g诺ys fel awdur, cyn ennill graddau Bagloriaeth ac MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg. Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheng mlynedd. Bellach mae鈥檔 Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg a鈥檌 siaradwyr, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid cod.
Mae鈥檔 nofelydd. Ef yw awdur Pumed Gainc y Mabinogi (Y Lolfa, 2022; cyrhaeddodd hon restr fer Llyfr y Flwyddyn 2023) a Cysgod y Mabinogi (Y Lolfa, 2024). Mae鈥檔 ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig, ble mae cymeriadau鈥檔 sylweddoli bod pwerau goruwchnaturiol yn bodoli sydd tu hwnt i鈥檞 dychymyg, a bod safle pobl yn y bydysawd yn ddi-nod ac yn fyrhoedlog yn wyneb y fath arswydau. Ysgrifennodd y gyfrol Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill (Melin Bapur, 2025), sef y cyfieithiad cyntaf i鈥檙 Gymraeg o waith yr awdur Americanaidd dylanwadol, HP Lovecraft.
Enillodd ei daid, y bardd a鈥檙 llenor T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951.
Mae Peredur yn byw ym Mhorthaethwy gyda鈥檌 deulu. Mae鈥檔 aelod o gorau Hogia Llanbobman a Ch么r Esceifiog ac mae鈥檔 hoff o chwarae a chasglu gemau bwrdd, fideo a chwarae r么l yn ei amser sb芒r.
Gellir prynu鈥檙 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy鈥檔 cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd 芒 manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi鈥檙 Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni鈥檙 Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed tan 9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.