Bangor yn disgleirio mewn cynhadledd fawr ar ymchwil dwyieithrwydd
Roedd gan ymchwil i ddwyieithrwydd Bangor bresenoldeb cryf mewn cynhadledd ryngwladol fawr ar ddwyieithrwydd (15fed Symposiwm Rhyngwladol ar Ddwyieithrwydd, ISB15) a gynhaliwyd yng Ngwlad y Basg a fynychwyd gan dros 1000 o gyfranogwyr o bob cwr o'r byd.
Cynhaliodd Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol Bangor symposiwm thematig ar gefnogi caffael dwyieithog mewn unigolion â chyflyrau datblygiadol. Adroddodd Meinir Williams (PhD Ieithyddiaeth) ar brosiect i greu lleisiau plant ar gyfer cyfathrebu estynedig ac amgen (AAC) dwyieithog yng Nghymru, dan arweiniad Uned Technoleg Iaith Prifysgol Bangor. Cyflwynodd Rebecca Day (PhD Dwyieithrwydd) ganfyddiadau ar fynychder dwyieithrwydd mewn syndrom Rett. Profiadau Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru oedd pwnc cyflwyniad Jazmine Beauchamp (PhD Dwyieithrwydd). Yn olaf, daeth y symposiwm thematig i ben efo cyflwyniad gan Bethan Collins (PhD Dwyieithrwydd) ar brosiect arloesol sy'n defnyddio'r celfyddydau i gynorthwyo dysgu ieithoedd mewn ffordd gynhwysol, dan arweiniad Mared Huws (Pontio).
Rhoddodd ymchwilwyr ôl-raddedig o'r Labordy Dwyieithrwydd Plant a chydweithwyr lawer o sgyrsiau unigol eraill ar eu hymchwil yn y gynhadledd, gan gynnwys dwyieithrwydd mewn Anhwylder Iaith Datblygiadol gan Maryam Awawdeh (PhD Dwyieithrwydd), addysg drochi Gareth Caulfield (PhD Dwyieithrwydd), newid cod mewn unigolion â dementia gan Laura Maguire (PhD Dwyieithrwydd), sgiliau Uwchwyboddol a sgiliau darllen mewn plant sy’n datblygu dwyieithrwydd gan Bethan Collins, a mwy.
Dywed Eirini Sanoudaki, Cyfarwyddwr y Labordy ac Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau: ‘Roedd yn wych gallu lledaenu ein hymchwil yn y gynhadledd bwysig hon. Mae llwyddiant a chyfraniad ein hymchwilwyr PhD yn arbennig o arwyddocaol: mae Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil i ddwyieithrwydd ac mae ein hymchwilwyr ôl-raddedig ardderchog yn arwain y ffordd.’
Cafodd ymchwilwyr ôl-raddedig yn y Labordy Dwyieithrwydd Plant gefnogaeth yn y gynhadledd hon gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ESRC a Chronfa Bangor. Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
