Mae ymgyrch newydd yn mynd rhagddi oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr Alban yr haf hwn i weld a allai鈥檙 genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt alltraeth arnofiol gynyddu cynhyrchedd y moroedd o amgylch y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrch yn dwyn ynghyd wyddonwyr morol blaenllaw o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys prifysgolion Lerpwl, Bangor, East Anglia, Southampton a Hull; Marine Scotland, sef Cymdeithas Gwyddor M么r yr Alban; a'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol.
Bydd dwy long ymchwil, sef y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery a Llong Ymchwil Prifysgol Bangor Prince Madog, ynghyd 芒 fflyd o gerbydau tanddwr, yn cynnal arolwg o鈥檙 dyfroedd o amgylch dwy fferm wynt arnofiol, a ddatblygwyd fel prototeipiau, oddi ar arfordir dwyrain yr Alban, sef: Kincardine, sy'n eiddo i Dragados ac sy鈥檔 cael ei weithredu gan Grupo Cobra; a Hywind, sy'n cael ei weithredu gan Equinor. Bydd y gwyddonwyr yn edrych i weld a all tyrfedd a chymysgu ychwanegol, wrth i geryntau鈥檙 llanw lifo trwy鈥檙 ffermydd gwynt arnofiol hyn, ddod 芒 maetholion i fyny o'r dyfnderoedd ar gyfer y plancton sy鈥檔 byw yn y dyfroedd cynnes sy鈥檔 nes at yr wyneb. Plancton yw sylfaen y gadwyn fwyd forol, felly gallai cynyddu cynhyrchiant plancton fod o fudd i fioamrywiaeth moroedd a physgodfeydd y Deyrnas Unedig.
Dros y degawd diwethaf, mae ynni gwynt alltraeth wedi dod yn rhan fawr o gyflenwad ynni'r Deyrnas Unedig, ac yn stori o lwyddiant diwydiannol i鈥檙 Deyrnas Unedig. Yn 2024, roedd gwynt yn cyfrif am 30% o gynhyrchiant trydan y Deyrnas Unedig, gyda mwy na hanner y cynhyrchiant hwnnw'n digwydd ar y m么r. Ond wrth i'r moroedd bas, sy'n addas ar gyfer ffermydd gwynt, ddechrau llenwi, mae'r diwydiant yn edrych ymhellach o鈥檙 lan er mwyn diwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig a helpu i gyrraedd sero net.
Mae'r symud ymhellach o鈥檙 lan yn heriol o safbwynt peirianegol oherwydd bod y d诺r yn ddyfnach, gan olygu fod angen datblygu technoleg gwynt arnofiol newydd, a bellach mae'r Deyrnas Unedig yn arwain yn fyd-eang yn y maes hwnnw.
Mae symud i dd诺r dyfnach hefyd yn golygu y bydd y ffermydd gwynt yn gweithredu mewn amgylchedd eigionegol gwahanol iawn - moroedd arfordirol lle mae'r haenau d诺r yn newid gyda'r tymhorau. Mae'r moroedd hyn ymhlith y rhai mwyaf biolegol-gynhyrchiol ac amrywiol ar y blaned, fel yr eglurwyd gan David Attenborough yn y gyfres deledu Blue Planet. .
Dros yr haf, mae'r dyfroedd dyfnach hyn yn ffurfio haenau, gyda d诺r cynnes yn gorwedd uwch ben d诺r oerach oddi tanodd. Mewn d诺r dwfn y ceir y maetholion y mae ar blancton eu hangen, ond mae鈥檙 plancton yn byw yn yr haen uchaf. Wrth i鈥檙 llanw lifo heibio i'r ffermydd gwynt mae鈥檔 cynhyrchu tyrfedd a all ddod 芒 rhai o'r maetholion hynny i fyny i'r d诺r wyneb gan hyrwyddo twf plancton.

Meddai鈥檙 Athro Jonathan Sharples o Brifysgol Lerpwl, arweinydd y project a鈥檙 prif wyddonydd ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery:
鈥淢ae鈥檙 ymchwil yma鈥檔 gyfle gwych i asesu effeithiau technoleg y ffermydd gwynt arnofiol newydd yma ar gynhyrchedd y cefnforoedd. Mae damcaniaethau presennol yn awgrymu oherwydd bod y cefnfor yn cynhesu'n gyflym y bydd yn dod yn llai cynhyrchiol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ar bysgodfeydd. Bydd yn ddefnyddiol iawn gwybod a fydd y maetholion sy'n cael eu cymysgu tua鈥檙 wyneb gan ffermydd gwynt alltraeth arnofiol yn gallu gwrthbwyso rhywfaint o'r gostyngiad hwnnw.
Meddai Dr Ben Lincoln, sef yr eigionegydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n arwain y gwaith ar y Llong Ymchwil Prince Madog:
鈥淵n ystod y don wres yn haf 2023, fe wnaethon ni sylwi ar rywbeth anarferol yn digwydd o amgylch ffermydd gwynt arnofiol. Er bod tymereddau d诺r wyneb tua 4-5 掳C yn uwch na'r arfer ar draws y rhan fwyaf o'r rhanbarth a oedd yn profi ton wres, roedd y d诺r wyneb yn llawer oerach yr ochr bellaf i ffermydd gwynt. Y rheswm dros hynny ydy bod tyrfedd yn dod 芒 d诺r dwfn, oerach i'r wyneb. Os ydy d诺r oerach yn dod i'r wyneb fel hyn, bydd maetholion y gallai'r plancton eu defnyddio hefyd yn dod i鈥檙 wyneb. Bydd yr arsylwadau newydd yma鈥檔 ein galluogi ni i fesur faint o hynny sy鈥檔 digwydd.鈥
Ochr yn ochr 芒'r gwaith a fydd yn digwydd ar fwrdd y llongau, bydd t卯m rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr daear, eigionegwyr a pheirianwyr trydanol o Brifysgol Southampton yn cynnal dadansoddiad newydd i fesur tymheredd y m么r gan ddefnyddio'r ceblau morol foltedd uchel sy'n cysylltu'r ffermydd gwynt 芒'r grid p诺er cenedlaethol.
Meddai鈥檙 Athro Justin Dix: 鈥淏ydd gallu canfod tymheredd y d诺r o鈥檙 ceblau trosglwyddo yn gyfle i olrhain newidiadau yn nhymheredd ac yn haeniad y cefnfor yn ystod oes y ffermydd gwynt.鈥
Bydd y rhaglen sydd wedi ei chynllunio ar gyfer yr haf hwn yn asesu effaith ffermydd gwynt alltraeth arnofiol er mwyn llywio datblygiadau yn y dyfodol i gyfrannu at dargedau sero net ond hefyd i amddiffyn iechyd y cefnforoedd mewn hinsawdd sy'n cynhesu.
Ariennir y gwaith gan y .