Ysgoloriaeth Ol-Raddedig Price Davies (Cronfa Etifeddiaeth Y Werin)
Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm cymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
O ran ysgoloriaethau a ddyfernir yn 2025/26 rhaid i ymgeiswyr fod yn dilyn cynllun astudio gradd ymchwil 么l-radd yn y Celfyddydau neu mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Meini prawf cymhwysedd ar gyfer ysgoloriaethau Price Davies a ddyfarnwyd yn 2025/26
Rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio doethuriaeth mewn unrhyw bwnc o fewn y Celfyddydau neu Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Rhaid i ymgeiswyr fod ar eu hail neu drydedd flwyddyn o'u PhD. Nid yw ymgeiswyr ar flwyddyn gyntaf eu PhD yn gymwys i wneud cais.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunan-ariannu ac ni ddylent fod yn derbyn unrhyw gyllid cyhoeddus na phreifat i gefnogi eu hymchwil PhD.
Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth trwy lofnod eu goruchwyliwr/goruchwylwyr ar y ffurflen gais, fel sicrwydd bod y PhD yn mynd rhagddo.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae pedair ysgoloriaeth gwerth 拢5,000 yr un ar gael. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu dewis drwy gystadleuaeth agored.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Ysgol Ddoethurol (pgr@bangor.ac.uk) erbyn hanner nos (BST) fan bellaf Ddydd Llun 8 Medi 2025. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar 么l y dyddiad hwn yn cael eu hadolygu.