Llwyddiant yn Noson Wobrwyo MediWales am ail flwyddyn yn olynol
Mae t卯m a arweiniwyd gan Dr Chris Subbe, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, sydd hefyd yn ymarferwr clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi ennill Gwobr MediWales am "Partneriaeth GIG gyda Diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol". Noddwyd y wobr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Roche.
Gyda Chris Subbe, (canol) yn y seremoni Gwobrwyo mae aelodau鈥檙 T卯m Peter Howell (Roche UK), Andrew Goodall (Prif Weithredwr GIG Cymru), J眉rgen Fischbach (Philips R&D), Jose Fortino (Philips UK) Dyfarnwyd y wobr am waith ar y cyd gyda Philips Healthcare. Daeth Philips, sy鈥檔 arwain y farchnad mewn monitro gofal dwys, i ogledd Cymru i brofi eu system fonitro fwyaf blaengar ar gyfer wardiau cyffredinol, fel rhan o astudiaeth VITAL II. Mae gogledd Cymru yn un o鈥檙 canolfannau sy鈥檔 arwain ar ddiogelwch ysbytai yn y 15 mlynedd diwethaf, gyda gwaith ar Systemau Ymateb Brys. Mae Systemau Ymateb Brys yn defnyddio arfarniad systematig o arwyddion bywyd y claf, gan gynnwys graddfa anadlu, pwysedd gwaed, a chyfradd curiad y galon. Os yw鈥檙 arwyddion bywyd yn dangos patrwm sy鈥檔 nodi gwaeledd, mae T卯m Ymateb Brys yn cael eu galw, dros y ff么n fel rheol, i erchwyn y gwely i gefnogi鈥檙 claf sydd mewn perygl.
Meddai Dr Subbe:
"Mae鈥檙 'Ymateb Gwarchodwr' yn ymestyn diogelwch y claf drwy gyflwyno dwy elfen newydd: defnydd o iconau clir sy鈥檔 cael eu harddangos ar yr orsaf nyrsio ganolog, gan ei wneud yn glir i bob aelod o鈥檙 T卯m fod y claf yn s芒l, nid yn unig i鈥檙 aelod sy鈥檔 gofalu am y claf. Mae鈥檙 鈥楪warchodwr鈥� hefyd yn rhoi gwybod yn awtomatig am arwyddion bywyd anarferol i鈥檙 T卯m Ymateb Brys."
Mae canlyniadau cynnar yn awgrymu gostyngiad mewn trawiadau ar y galon, a bod cleifion sydd ag afiechyd critigol yn cael eu trosglwyddo i鈥檙 Uned Gofal Dwys yn gynt.
Mae鈥檙 system yn cyflwyno newid sylweddol i ddiogelwch y claf gan ddefnyddio egwyddorion sydd wedi bod yn gyffredin mewn diogelwch awyrennau. Mae hyn yn symleiddio cyfundrefnau i nyrsys a doctoriaid, ac yn creu amser i wella triniaeth i gleifion. Yn ogystal, mae鈥檙 system electronig yn gweithredu fel rhwyd diogelwch ychwanegol.
Dyma鈥檙 ail flwyddyn yn olynol i Dr Subbe fod yn rhan o d卯m i ennill gwobr yn nigwyddiad MediWales. Fe enillodd y Wobr Arloesedd yn y GIG y llynedd am ei waith efo Andy Goodman o Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor am lunio record feddygol peilot y gall y claf greu drostynt eu hunain.
Meddai鈥檙 Athro Dean Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol:
"Mae鈥檙 ymchwil hon yn nodweddiadol o鈥檙 ansawdd uchel a鈥檙 effaith byd real y mae Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymgymryd 芒 hwy mewn partneriaeth 芒 rhai o chwaraewyr masnachol mwyaf y byd ym maes iechyd a meddygaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015