Ffioedd 2023鈥�24 鈥� Tir na n-Og
Isod fe welwch y fframwaith ffioedd newydd sy鈥檔 cael ei ddiweddaru bob blwyddyn ym mis Medi.
Sesiwn y bore (cynnwys cinio) |
Sesiwn y prynhawn |
y diwrnod
| yr wythnos
|
---|---|---|---|
拢35 |
拢33 |
拢57 | 拢280 |
Gall cyfnewid cyflog arbed 29.4% o鈥檜 costau gofal plant i dalwr treth cyfradd sylfaenol, a gall arbed 41% o鈥檜 costau gofal plant i dalwr treth cyfradd uwch. Gwneir yr arbedion drwy dynnu llai o dreth ac yswiriant gwladol.
O 1af Medi ni fydd cyfyngiad o 45 wythnos bellach a gellir ystyried costau gofal plant am y flwyddyn gyfan wrth nodi unrhyw swm cais (o fewn y rheolau arferol aberthu cyflog fel nodwyd yn yr ddogfen cwestiynau a ateb).
Sylwch, rhoddir blaenoriaeth i staff sydd angen lle llawn amser. Yna ystyrir staff sydd angen llai na 10 sesiwn yr wythnos. Heb ystyried faint o sesiynau gofal plant sydd eu hangen bob wythnos, tybir y bydd yr aelod staff yn defnyddio鈥檙 feithrinfa am y flwyddyn lawn o 45 wythnos waith, h.y. ni fydd yn bosibl dan y trefniant hwn i amcangyfrif costau cyfredol wedi eu seilio ar nifer llai o wythnosau, e.e. yn ystod tymor ysgol neu ddyddiau gwyliau yn unig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun hwn, cysylltwch 芒:
Anna Jones, Cynorthwywr Adnoddau Dynol, ar: (01248) 383835 / benefits@bangor.ac.uk NEU
Gareth Owen, Swyddog Adnoddau Dynol, ar: (01248) 382058 / benefits@bangor.ac.uk
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch y Feithrinfa at Reolwr y Feithrinfa ar (01248) 388383.
At ddibenion y trefniadau hyn, golyga cyfrifoldeb rhiant fod 芒 phob hawl, dyletswydd, p诺er, cyfrifoldeb ac awdurdod sydd gan riant plentyn yn 么l y gyfraith mewn cysylltiad 芒鈥檙 plentyn ac eiddo鈥檙 plentyn.
Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw wahaniaethau rhwng ffioedd y feithrinfa a鈥檙 swm a gyfnewidir drwy鈥檙 cynllun.