Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau 芒 Blaenoriaeth 2025-26
Mae cymhellion pwnc blaenoriaeth AGA yn grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn rhaglen AGA 么l-raddedig yng Nghymru sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi argaeledd Cymhellion Hyfforddi Athrawon yn flynyddol.
Pynciau 芒 Blaenoriaeth 2025 i 2026
I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau 芒 blaenoriaeth, rhaid I unigolyn fod 芒 gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:
- Bioleg
- Cemeg
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Ffiseg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Mathemateg
- Technoleg Gwybodaeth
Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o 拢15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Myfyrwyr llawn amser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o 拢15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- 拢6,000 ym mis Ionawr ar 么l cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
- 拢6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar 么l cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar 么l dyfarnu SAC iddo
- 拢3,000 ar 么l cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.
Myfyrwyr rhan-amser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o 拢15,000 mewn pedwar rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:
鈥� 拢3,000 ym mis Ionawr ar 么l cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
鈥� 拢3,000 ym mis Ionawr ar 么l cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
鈥� 拢6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar 么l cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar 么l dyfarnu SAC iddo
鈥� 拢3,000 ar 么l cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.
Bwrsariaethau i fyfyrwyr TAR nad ydynt yn gymwys ar gyfer Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA)
Mae Prifysgol Bangor yn darparu bwrsariaethau i fyfyrwyr TAR o'r UE a'r DU y tu allan i Gymru*, sy'n dilyn cwrs TAR ac NAD ydynt yn gymwys i dderbyn Cymhellion Hyfforddiant Addysgu. Am fwy o wybodaeth am Fwrsariaeth Bangor cliciwch yma.
Rhagor o wybodaeth am y Bwrsariaethau Bangor
*Bydd pob myfyriwr o Gymru yn derbyn Grant o 拢1,000 gan Llywodraeth Cymru.
Ysgoloriaeth Alumni 2025/26
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd i holl gyn-fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol Prifysgol Bangor sy'n hunan-ariannu sydd wedi graddio gyda gradd anrhydedd.
I fod yn gymwys ar gyfer yr Ysgoloriaeth Alumni bydd rhaid i chi:
- Fod yn raddedig o raglen israddedig ym Mhrifysgol Bangor.
- Ymgeisio yn llwyddiannus ac yna cofrestru i astudio ar un o鈥檔 graddau Meistr a addysgir sy'n gymwys (h.y. TAR Cynradd neu Uwchradd, MA, MSc, MBA, LLM. Heb gynnwys graddau MRes).
Nodwch os gwelwch yn dda:
Fel arfer dim ond UN dyfarniad / ysgoloriaeth y mae myfyrwyr yn gymwys i'w derbyn - os dyfernir ysgoloriaeth gwerth uwch i chi wedyn, y dyfarniad gwerth uwch fydd yn cael blaenoriaeth a bydd y dyfarniadau gwerth is yn cael eu canslo. Nid oes angen cais ar wah芒n ar gyfer yr Ysgoloriaeth.
Am wybodaeth bellach, ewch i'r wefan yma.